Ap yr Wyddor Gymraeg

B am… Bett!

Oeddech chi’n gwybod bod Ffrindiau Bach wedi ennill gwobr ‘Canmoliaeth Uchel’ Dyfarniadau Rhyngwladol Bett 2024? Dyma'r unig adnodd o Gymru wnaeth gyrraedd y brig mewn rhestr fer o saith yn y categori, 'Adnodd Addysgol ar gyfer Rhieni neu Ddysgu yn y Cartref 2024'. Mae Dyfarniadau Bett yn dathlu creadigrwydd ac arloesedd mewn technoleg ar gyfer addysg. Bendigedig!

Lawrlwythwch
NAWR!

Ff am… ‘Ffantastig!’

Ap addysgol ar gyfer dysgwyr ifanc 3-5 oed yw Ffrindiau Bach. Wedi’i gynhyrchu gan Atebol a’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, mae’n ffordd hwyliog a lliwgar o ddysgu llythrennau’r wyddor Gymraeg.

Mae’r ap wedi’i greu gan ymarferwyr addysg yng Nghymru, ac mae’n ategu’r Cwricwlwm gan helpu i ddatblygu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Gymraeg.

Mae’n addas ar gyfer y cartref a lleoliadau dysgu cynnar, ac mae ’na gymeriad Ffrindiau Bach i bawb!

G am…
‘Grêt
!’

Beth sy’n gwneud Ffrindiau Bach yn wych?

Mae’r ap amlhaenog yn cynnwys:

  • Straeon bachog sy’n cyflwyno llythrennau'r wyddor gydag amrywiaeth ddeniadol o gymeriadau.
  • Troslais Cymraeg cynhwysfawr i helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau deall.
  • Ymarferion amlinellu a chopïo ar gyfer pob llythyren i ddatblygu sgiliau ysgrifennu.
  • Gemau difyr i ddatblygu'r cof gweledol.

♫ a b c… i ffwrdd â ni!… ♫

Dewiswch
eich
cymeriad

llythyren!

… a 25 arall!

Ymunwch â’r hwyl heddiw!

Dysgwch.

Archwiliwch.

Chwaraewch.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Eisiau rhoi adborth? Neu a oes gennych chi gwestiwn am yr ap? Gadewch neges isod 🤓